Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Ebrill 2017
Amser: 09.00 -
10.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3948
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Neil McEvoy AC David Melding AC |
Tystion: |
John Forsey, Highways, Transport & Recycling, Powys County Council - Welsh Local Government Association (WLGA) Steve Wright MBE, Chairman - Licensed Private Hire Car Association |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Mynychodd David Melding yn lle Janet Finch-Saunders.
Datganodd David Melding y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi cefnogi'r ymgyrch ar gyfer ffordd osgoi Dinas Powys yn flaenorol.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a yw Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu'r astudiaeth gyfredol i mewn i rwydwaith trafnidiaeth Dinas Powys ac, os felly, a fyddai mewn sefyllfa i roi'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd hyn wedi dod i ben.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gysylltu â'r deisebydd er mwyn cael eglurhad am ei deiseb, yng ngoleuni'r wybodaeth a dderbyniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried boddhad y deisebwyr gydag ehangu'r rhaglen Twf o fis Ebrill 2017, cytunwyd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am eu cyfraniad.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.3.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau mwyaf diweddar y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a derbyn y cynnig o gael y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru pan fo hynny'n briodol
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebydd yn dilyn ei gyfarfod a drefnwyd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddychwelyd at y ddeiseb yn y cyfarfod nesaf fel y gellir ei hystyried ochr yn ochr â deiseb arall ar geisiadau cloddio glo brig.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig; ac
· aros am fanylion pellach ar y cynigion ar gyfer diwygio sy'n cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn iddi eu hystyried yn ei thrafodaethau;
· anfon y ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o ystyried ei ymchwiliad diweddar i'r mater hwn;
· aros am y datganiad sydd ar ddod gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ei phenderfyniad; a
· rhoi gwybod i'r deisebydd am yr ystyriaeth barhaus sy'n cael ei rhoi i'r mater o brofion TB ar gyfer gwartheg.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i anfon at y deisebwr gopi o adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar yr Oblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac aros am ei farn am y wybodaeth a dderbyniwyd.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a daeth i'r casgliad nad oes llawer rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud tra bod y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r awdurdod lleol ynglŷn â'r defnydd o'r tir yn parhau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd y trafodaethau hyn wedi dod i ben.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am farn y deisebwr am yr ohebiaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol cyn cytuno ar y cam nesaf mewn perthynas â'r ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.
Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.
Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau pellach i geisio ail-sefydlu cyswllt gyda'r deisebwr drwy'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.
Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau pellach i geisio ail-sefydlu cyswllt gyda'r deisebwr drwy'r Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion yn ymwneud â Phobl Fyddar.
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb eto yn y cyfarfod ar 9 Mai.
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb eto yn y cyfarfod ar 9 Mai.
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb eto yn y cyfarfod ar 9 Mai.
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb eto yn y cyfarfod ar 9 Mai.
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gymdeithas Tacsis Genedlaethol i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ar y ddeiseb.
Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.